Swyddfa S4C yng Nghaerdydd
Mae aelod o Dŷ’r Arglwyddi wedi dweud y dylai cyfrifoldeb dros S4C cael ei drosglwyddo o’r Adran Ddiwylliant yn San Steffan i’r Swyddfa Gymreig.
Fe fydd yr Arglwydd Roger Roberts yn dadlau yfory na ddylid cynnwys S4C yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus.
Fe fydd y Mesur Cyrff Cyhoeddus, sy’n mynd trwy’r Ail Siambr ar hyn o bryd, yn rhoi’r hawl i weinidogion Llywodraeth San Steffan newid neu ddileu S4C heb orfod ymgynghori â Senedd San Steffan yn gyntaf.
Mae’r Arglwydd Roberts yn credu y byddai hynny’n tanseilio’r sianel Gymreig, ac y byddai newid ei statws mewn unrhyw ffordd yn gam mawr yn ôl i Gymru.
“Dylai’r sianel fod yn rhan o gyfrifoldeb y Swyddfa Gymreig,” meddai’r Arglwydd Roberts wrth Golwg 360. “Dyna’r cartref cywir iddo.
“Ni ddylai gweinidog yn San Steffan allu newid faint o arian y mae’r sianel yn ei gael.”
Dywedodd yr Arglwydd Roberts y dylai Llywodraeth San Steffan drafod materion yn ymwneud â’r sianel gyda Llywodraeth y Cynulliad cyn gwneud unrhyw benderfyniad.