Mae grŵp wedi’i sefydlu ar wefan Facebook i brotestio yn erbyn y posibilrwydd o golli rhaglen gylchgrawn Wedi 3 ar S4C.
Roedd rheolwyr y sianel wedi crybwyll mewn cyfarfod â chwmniau teledu annibynol ddydd Sul y gallai Wedi 3 gael ei ddiddymu yn y dyfodol er mwyn gwneud lle ar gyfer rhagor o raglenni meithrin.
Ond mae trefnwyr ymgyrch ‘Achub Wedi Tri’ ar Facebook yn mynnu fod y rhaglen yn rhan “bwysig o’r sianel ac o fywyd a diwylliant Cymru”.
Mae’r rhaglen sy’n chwaer i’r gyfres Wedi 7 yn cael ei chynhyrchu gan Tinopolis yn Llanelli.
Cymunedau
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, un o aelodau’r grŵp, wrth Golwg360 fod rhaglen Wedi 3 “wedi’i wreiddio mewn cymunedau Cymraeg a Chymreig ar lawr gwlad”.
“Maen nhw’n trafod materion unigryw. Mae’n bwysig bod y math yma o raglen yn parhau,” meddai wrth Golwg360.
Ond cyfaddefodd bod dod o hyd i ryw fath o gydbwysedd o ran cynnwys y sianel yn dasg anodd.
“Un sianel sydd gyda ni. Mae gen i fab tair blwydd oed ac mae rhaglenni meithrin yn help mawr wrth drosglwyddo’r iaith i blant,” meddai.
“Ond ar lefel bersonol, fe fyddwn i’n gweld eisiau Wedi 3. Mae’n rhaglen ddifyr ac amrywiol”.
‘Gofid’
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams wrth Golwg360 fod y “perygl o golli Wedi 3 yn peri gofid i’r Gymdeithas”.
“Mae’n rhywbeth cymunedol. Mae angen i S4C bwyllo ac ystyried yr opsiynau posib yn llawn.”