Mae Heddlu’r De wedi rhybuddio pobol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr am dwyllwyr sydd wedi meddwl am ffordd newydd o ddwyn manylion banc.
Mae’r troseddwyr wedi bod yn ffonio pobol yn yr ardal ac wedyn yn eu twyllo i wneud galwad arall a rhoi rhifau eu cyfrifon a’u cardiau.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De wrth Golwg360 eu bod nhw wedi derbyn sawl cwyn gan y cyhoedd a’u bod yn monitro’r sefyllfa.
Sut mae’n gweithio
Mae nifer o bobol wedi dweud wrth yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn galwadau gan rywun sy’n esgus galw o Heddlu Llundain i drafod trosedd ynglŷn â’u cardiau banc.
Maen nhw’n gofyn i’r person ffonio’r banc neu’r heddlu … ond yn cadw’r llinell ar agor a dim ond esgus dod â’r alwad i ben.
A nhwthau’n meddwl eu body n ffonio’r banc neu’r heddlu, mae’r dioddefwyr mewn gwirionedd yn siarad gyda’r twyllwyr ac yn rhoi manylion bacn iddyn nhw.
‘Rhowch y ffôn i lawr’
Dywedodd y Ditectif Cwnstabl Rebecca Merchant o Heddlu’r De: “Dylai unrhyw un sy’n derbyn galwad o’r fath roi’r ffôn i lawr ar unwaith. Os ydych chi am ffonio eich banc, gwnewch hynny o ffôn arall.”
Rhybuddiodd bobol i ganslo’u cerdyn banc os ydyn nhw wedi derbyn galwad o’r fath.