Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi chwe newid i’r tîm a gollodd i Loegr brynhawn Sul wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Alban penwythnos yma.

Mae’n cynnwys dau newid yn safleoedd yr haneri, gyda Dan Biggar a Mike Phillips yn dod i mewn yn lle Rhys Priestland a Rhys Webb.

Liam Williams sydd wedi’i enwi fel cefnwr yn lle Leigh Halfpenny, a gafodd anaf i’w ysgwydd yn erbyn Lloegr sy’n debygol o’i gadw allan am weddill y tymor.

Ac mae tri newid ymysg y blaenwyr hefyd, gyda Ken Owens, Rhodri Jones a Luke Charteris yn dod i mewn.

Bydd Gethin Jenkins, sydd wedi cadw’i le, yn ennill ei 105fed cap dros Gymru ddydd Sadwrn, gan dorri record y cyn-faswr Stephen Jones.

Roedd nifer o gefnogwyr a sylwebyddion wedi galw ar Gatland i wneud newidiadau ac arbrofi gyda’r steil o chwarae yn sgil y golled i Loegr, gan gyhuddo’i dactegau ‘Warrenball’ o fod yn rhy syml a dweud nad oedd ganddo gynllun wrth gefn.

Ond cymysg yw newidiadau’r hyfforddwr, gyda nifer o’i chwaraewyr profiadol yn cadw’u lle unwaith yn rhagor a newidiadau eraill oherwydd anafiadau.

Fe fydd Biggar yn dechrau’i gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth fel maswr, gydag Owens a Rhodri Jones hefyd yn dechrau yn y rheng flaen i Gymru am y tro cyntaf eleni.

Gatland wedi gorfod newid

Hon fydd gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gyda’r golled i Loegr yn golygu nad oes gan y Cochion bellach siawns o adennill y tlws a enillon nhw yn y ddwy flynedd diwethaf.

Dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland wrth gyhoeddi’r tîm fod y bwlch o chwe diwrnod yn unig rhwng herio Lloegr a’r Alban yn golygu y byddai newidiadau yn anochel.

“Mae dydd Sadwrn yn gyfle i ni roi perfformiad,” meddai Gatland. “Rydyn ni’n gwybod ein bod ni am orffen y Chwe Gwlad ar nodyn uchel.

“Rydym ni wedi gwneud nifer o newidiadau gydag ond chwe diwrnod rhwng y gemau.

“Mae Liam [Williams] a Mike [Phillips] yn dod i mewn gyda Leigh [Halfpenny] a Rhys [Webb] allan gydag anafiadau, ac mae Dan Biggar yn cael ei gyfle fel maswr.

“Yn y rheng flaen mae Ken Owens a Rhodri Jones yn cael eu cyfle ar ôl gwneud argraff oddi ar y fainc, ac mae’n dda cael Luke [Charteris] yn ôl o anaf yn yr ail reng.

“Bydd yr Alban yn dod i chwarae eu rygbi ar ôl buddugoliaeth galonogol yn erbyn yr Eidal a cholli i Ffrainc yn anlwcus yn yr wythnosau diwethaf.

“Fe fyddwn ni’n edrych am chwarae mwy cywir yr wythnos hon er mwyn gorffen gyda buddugoliaeth yng Nghaerdydd.”

Cymru: Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Rhodri Jones (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Capt – Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Adam Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Perpignan).