Mae Cymru wedi codi dau safle i 49fed yn netholiadau’r byd diweddaraf FIFA ar ôl eu buddugoliaeth dros Wlad yr Ia’r mis yma.

Llwyddodd y fuddugoliaeth o 3-1 wella safle’r Cymry ychydig, gan eu codi nhw uwchben eu gwrthwynebwyr diweddaraf yn ogystal â Cameroon.

Cododd Lloegr dri safle i 12fed ar ôl trechu Denmarc o 1-0 yn ddiweddar, ond disgynnodd yr Alban dri safle i 37ain er gwaethaf trechu Gwlad Pwyl 3-1.

Mae Gweriniaeth Iwerddon yn 68ain a Gogledd Iwerddon yn 86fed, y ddau’n disgyn un safle yn y detholiadau diweddaraf.

O ran grŵp Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 mae Gwlad Belg yn 10fed (fyny 1), Bosnia-Herzegovina yn 21ain (lawr 4), Israel yn 65ain (lawr 9), Cyprus yn 122ain (dim newid) ac Andorra’n 199ain (lawr 1).