Vincent Tan
Mae cefnogwyr Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau i orymdeithio i brotestio yn erbyn penderfyniad perchennog y clwb, Vincent Tan i newid lliw’r clwb o las i goch.

Byddan nhw’n gorymdeithio i’r stadiwm ar Fawrth 22 cyn yr ornest yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Lerpwl.

Bydd yr orymdaith yn dechrau yn nhafarn Admiral Napier yn y brifddinas am 2pm.

Mae disgwyl iddyn nhw ganu caneuon sy’n dangos eu dicter bod Tan wedi newid lliw’r clwb o las i goch.

Byddan nhw’n ail-ddechrau’r brotest o’r eisteddle wedi 19 munud 27 eiliad.

Yn 1927 yr enillodd Caerdydd Gwpan FA.

Dywedodd Clwb Cefnogwyr Caerdydd mewn datganiad y bydd yr orymdaith yn “gyfle i holl gefnogwyr Caerdydd ddangos nad ydyn nhw’n cefnogi ail-frandio lliwiau’r clwb”.

Byddan nhw’n galw am ddychwelyd i liwiau traddodiadol y clwb, ac i’r bathodyn gael ei newid yn ôl i’r adar gleision.

Newidiodd Tan liw’r clwb i goch ar ddechrau tymor 2012/13 gan ei fod yn liw lwcus yng ngwlad ei febyd, Malaysia.