Scott Johnson
Mae prif hyfforddwr Yr Alban, Scott Johnson wedi ceisio tynnu sylw oddi arno fe ei hun cyn y gêm yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.

Fe fydd yr Awstraliad yn gadael ei swydd ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i dderbyn swydd newydd fel Cyfarwyddwr Rygbi Undeb Rygbi’r Alban.

Vern Cotter o Seland Newydd fydd yn olynu cyn-hyfforddwr Cymru.

Mae Johnson wedi llwyddo i ennill pum gêm yn unig allan o 15.

Mae’n awyddus i sicrhau nad yw ei benderfyniad i adael ei swydd fel hyfforddwr yn tynnu sylw oddi ar y gêm.

Dywedodd wrth y Press Association: “Nid fi sy’n bwysig.

“Fe wnes i’r hyn ro’n i’n teimlo sy’n iawn i’r Alban ac fe fydda i’n cymryd swydd newydd ac yn mwynhau honno – ond rwy’n falch iawn o ddweud fy mod i wedi bod yn rhan o’r cyfan.”

Gorffennodd Yr Alban yn drydydd yn y Chwe Gwlad yn ystod ei dymor cyntaf wrth y llyw.

Ond maen nhw wedi colli tair gêm eleni yn erbyn Ffrainc, Lloegr ac Iwerddon, gan guro’r Eidal.

Mae e wedi penderfynu gohirio’r cyhoeddiad am y garfan i wynebu Cymru oherwydd amheuon am ffitrwydd nifer o’r chwaraewyr.