Morecambe 4–1 Casnewydd

Cafodd Casnewydd eu cosbi’n llym yn dilyn cerdyn coch i Tom Naylor yn erbyn Morecambe yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Rhoddodd Naylor yr Alltudion ar y blaen yn gynnar yn y Globe Arena ac felly yr arhosodd pethau tan doc cyn yr awr. Ond yna cafodd yr amddiffynnwr ei anfon oddi ar y cae wrth ildio cic o’r smotyn ac aeth y tîm cartref ymlaen i unioni pethau gyda’r gic honno cyn ennill y gêm gyda thair gôl arall yn yr hanner awr olaf.

Roedd llai na chwarter awr wedi mynd pan roddodd Naylor y Cymry ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ond newidiodd y gêm yn llwyr wedi deuddeg munud o’r ail hanner pan gafodd Kevin Ellison ei lorio yn y cwrt cosbi gan Naylor. Rhwydodd Jamie Devitt o ddeuddeg llath ac roedd Morecambe ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach wedi i Ellison ei hun ychwanegu’r ail.

Ychwanegodd yr eilydd, Jack Redshaw, ddwy gôl arall yn yr ugain munud olaf i roi gwedd fwy gyfforddus ar y fuddugoliaeth.

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran bellach yn pylu yn dilyn y canlyniad siomedig arall hwn. Maent bellach yn y trydydd safle ar ddeg, saith pwynt y tu ôl i Southend yn y seithfed safle.

.

Morecambe

Tîm: Roche, Beeley (McCready 44′), Threlfall, Drummond, Parrish, Hughes, Kenyon, Fleming, Sampson (Redshaw 71′), Devitt (Amond 71′), Ellison

Goliau: Devitt [c.o.s.] 57’, Ellison 61’, Redshaw 72’, 83’

Cerdyn Melyn: Fleming 42’

.

Casnewydd

Tîm: McLoughlin, Jackson, Willmott (Amadi-Holloway 65′), Hughes, Worley, Naylor, Porter, Minshull, Chapman (Flynn 81′), Howe (Pipe 58′), Zebroski

Gôl: Naylor 13’

Cerdyn Melyn: Worley 39’

Cerdyn Coch: Naylor 57’

.

Torf: 1,300