Braintree 3–0 Wrecsam
Llithrodd Wrecsam ym mhellach i lawr tabl Uwch Gynghrair Skrill nos Fawrth wrth golli yn erbyn Braintree ar Cressing Road.
Rhoddodd Sean Marks fantais i’r tîm cartref ar yr egwyl cyn i goliau hwyr Dan Holman ac Alex Jakubiak sicrhau’r fuddugoliaeth.
Daeth y gôl agoriadol saith munud cyn yr egwyl pan gyfnuodd Marks a Holman yn dda i greu’r gôl agoriadol i Marks.
Joe Anyinsah a ddaeth agosaf i’r Dreigiau ar ddechrau’r ail hanner ond roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i Braintree chwarter awr o’r diwedd pan rwydodd Holman yr ail, cyn i Jakubiak ychwanegu’r drydedd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae’r canlyniad yn codi Braintree dros Wrecsam yn nhabl y Gyngres, gyda’r Dreigiau bellach wedi llithro i’r unfed safle ar bymtheg, ddeg pwynt ac un ar ddeg safle o’r safleoedd ail gyfle.
.
Braintree
Tîm: Hamann, Massey, Wells, Habergham, Paine, Davis (Isaac 46′), Laurent, Marks, Mensah (Sparkes 77′), Peters, Holman (Jakubiak 84′)
Goliau: Marks 38’, Holman 75’, Jakubiak 90’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Wright, Tomassen, Livesey (Artell 46′), Ashton, Hunt (Ogleby 59′), Keates, Carrington, Harris (Reynolds 76′), Anyinsah, Ormerod
Cerdyn Melyn: Harris 70’
.
Torf: 699