Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi penderfynu peidio galw ar aelodau’r undeb i streicio ar 26 Mawrth, mewn cyfarfod brys o Gyngor Cenedlaethol yr undeb yn Aberystwyth heddiw.
Roedd athrawon sy’n aelodau o’r undeb yn bwriadu gweithredu ar 26 Mawrth oherwydd anghydfod gyda’r Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, Michael Gove ynghylch tâl a phensiynau athrawon.
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, mae Llywodraeth San Steffan wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol ers i’r undeb gyhoeddi bwriad i streicio.
Dywedodd Elaine Edwards: “Yn sgil y datblygiadau positif hyn, mae UCAC wedi penderfynu parhau i bwyso am welliannau, a cheisio datrys yr anghydfod trwy drafodaethau ac ymgyrchu.
“Nid yw’r ymgyrch drosodd, o bell ffordd, ond mae’r undeb wedi penderfynu mai trwy drafodaethau, yn hytrach na thrwy weithredu diwydiannol, y mae’r gobaith orau o lwyddo ar hyn o bryd.”
Cyfarfodydd
Ers i UCAC gyhoeddi ei fwriad i streicio, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Michael Gove wedi cytuno i gyfres o gyfarfodydd wythnosol gyda’r holl undebau addysg i drafod ystod eang o bynciau sy’n peri pryder – fel llwyth gwaith, y system gyflogau a phensiynau.
Yn ogystal â’r cyfarfodydd hyn, bydd trafodaethau penodol gydag UCAC, yr NUT a’r NASUWT sef yr undebau sydd mewn anghydfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol.
Bydd y cyfarfodydd yn parhau’n wythnosol tan y Pasg a thu hwnt.