Mae meddygon yn Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi ail-adeiladu wyneb claf trwy ddulliau 3D arloesol.

Hwn yw’r tro cyntaf i ddulliau o’r fath gael eu defnyddio ar glaf trawma.

Bu’n rhaid i feddygon ail-adeiladu wyneb Stephen Power o Gaerdydd yn dilyn damwain beic modur yn 2012.

Fe dorrodd asgwrn ei foch, ei ên, ei drwyn a’i benglog.

Mae’r claf wedi canmol y meddygon am eu hymdrechion, gan ddweud bod y driniaeth wedi gwyrdroi ei fywyd.

Cafodd sganiau CT eu defnyddio i greu lluniau o’i wyneb er mwyn i’r ddwy ochr gyfateb i’w gilydd.

Mae platiau titaniwm yn dal ei wyneb ynghyd.

Yn ôl meddygon, mae’r dulliau’n rhoi darlun cywir o sut ddylai’r wyneb edrych fel nad oes rhaid dyfalu.

Gwyddonwyr ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd sy’n datblygu’r dechnoleg sy’n cael ei defnyddio yn ystod llawdriniaethau.

Mae stori Stephen Power yn cael ei hadrodd mewn arddangosfa yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain.

Airbus UK yw un o brif noddwyr yr arddangosfa.