Arthur Scargill
Mae hi’n 30 mlynedd ers i lowyr ar draws Cymru a gweddill Prydain gynnal streic mewn ymdrech i achub eu swyddi, pyllau glo a ffordd o fyw.

Ddechrau 1984, cyhoeddwyd y byddai’r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cau ugain o byllau glo ar draws Prydain gan golli 20,000 o swyddi.

Dechreuodd Streic y Glowyr yr un flwyddyn, a bu cyfnod o drawsnewid mawr yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru.

Undeb Cenedlaethol y Glowyr (yr NUM) dan arweiniad Arthur Scargill, wnaeth alw am y streic – i wrthwynebu cynlluniau llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher.

Roedd Llywodraeth Margaret Thatcher yn honni fod rhai pyllau yn amhroffidiol ac yn aneconomaidd ac felly penderfynodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol gau 20 o byllau glo ar draws Prydain.

Y streicio

Roedd glowyr ym mhob pwll glo yn Ne Cymru ar streic gyda glowyr a’u teuluoedd yn gadarn eu cefnogaeth i’r ymdrech i achub eu bywoliaeth a’u cymunedau.

Glowyr pwll Cortonwood yn Swydd Efrog oedd y cyntaf i adael eu gwaith ar Fawrth 6 1984, yn dilyn pleidlais leol.

Wrth i’r streicio barhau, roedd hi’n anodd i’r glowyr a’u teuluoedd gynnal bywoliaeth gan nad oedd y gweithwyr yn ennill cyflog nac yn deilwng o fudd-daliadau gan fod y streic wedi ei nodi yn un anghyfreithlon.

I rai, fe aeth hi mor anodd cael deupen llinyn ynghyd fel nad oedd dewis ond mynd yn ôl i’w gwaith a thorri’r streic. Roedden nhw’n cael eu hystyried yn ‘fradwyr’ gan y rhai oedd yn parhau i streicio.

Daeth y streic i ben yn swyddogol ar Fawrth 3 1985, pan basiwyd pleidlais i ddychwelyd i’r gwaith. Digwyddodd hynny ar 5 Mawrth ond caewyd llawer o byllau glo yn gyflym dros y blynyddoedd nesaf.