Patricia Anne Durrant
Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys, wedi ei gyhuddo o lofruddio gwraig 65 oed o Landysul.

Cafodd James Blair Hamilton, 59 oed, hefyd o Landysul, ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff Patricia Anne Durrant mewn tŷ yn Stryd Fawr y dref, ar 3 Mawrth.

Bu James Hamilton yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo o garchar y ddinas, ond nid oedd wedi cyflwyno ple yn ystod y gwrandawiad.

Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn yr achos sydd ar 13 Mehefin, o dan arweiniad y barnwr Mr Ustus Wyn Williams.