Edwina Hart
Mae cwmni Lloyd & Barnes yn bwriadu creu 100 o swyddi yng Nghwmbrân dros y blynyddoedd nesaf, wrth agor swyddfa newydd yn y dref.

Mae’r cwmni yswiriant yn cyflogi 10 o bobol mewn swyddfa ym Mharc Llantarnam yng Nghwmbrân ar hyn o bryd, ac yn dweud eu bod yn gobeithio creu 111 o swyddi ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r cwmni, Chris Buckley, bydd rhwng 40 a 50 o’r swyddi hynny yn cael eu creu erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd y cwmni’n derbyn gwerth £1 miliwn o gyllid preifat a £999,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru er mwyn bwrw mlaen gyda’r datblygiad.

‘Cymru’n cystadlu fel lleoliad i fusnesau’

Yn ôl Gweinidog yr Economi Edwina Hart, mae’r cymorth ariannol gan y Llywodraeth wedi sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei leoli yng Nghymru, gan fod y cwmni hefyd wedi ystyried lleoliad yn Llundain:

“Mae’n ychwanegiad gwych i’r sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yng Nghymru, sy’n prysur dyfu, ac yn tystio i’r ffaith bod Cymru’n lleoliad cystadleuol iawn ar gyfer busnesau yn y sector hwn,” meddai.

“Mae disgwyl i’r buddsoddiad diweddaraf hwn greu nifer sylweddol o swyddi newydd medrus â chyflogau da a hefyd gyfrannu’n bositif at economi’r rhanbarth.”

Dywedodd Ortho Barnes, Cadeirydd Lloyd & Barnes:  “Mae’r awyrgylch cyfeillgar i fusnesau yr ydym wedi’i brofi yng Nghymru wedi bod yn chwa o awyr iach. Rwy’n siŵr y bydd y cymorth a’r arweiniad y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig yn denu sawl cwmni arall sy’n dymuno ehangu.”