Gethin James
Mae’r cynghorydd Gethin James o Aberporth wedi cael ei ddiswyddo o’i sedd ar gabinet Cyngor Ceredigion, ar ôl cyhoeddi ei fod yn ymuno â phlaid UKIP.

Cafodd Gethin James ei ethol yn Aelod Annibynnol o glymblaid Cyngor Sir Ceredigion, sy’n cael ei harwain gan Blaid Cymru.

Ond ar ôl cyhoeddi ei fod yn symud i UKIP ddoe, cafodd ei ddiswyddo gan arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn.

Dywedodd Ellen ap Gwynn ar ei chyfrif trydar ddoe: “Dwi wedi ei ddiswyddo (Gethin James) y bore ‘ma. Roedd yn galw ei hun yn aelod annibynnol o gabinet y glymblaid.”

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Elin Jones AC Plaid Cymru dros Geredigion:

“Penderfyniad terfynol iawn. Mae’n rhaid i Geredigion ganolbwyntio ar fuddsoddiad, masnach, twristiaid a myfyrwyr Ewropeaidd.”

Mwy i ddilyn.