Prifysgol Aberystwyth
Mae adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau bod ‘sonic boom’ wedi cael ei deimlo a’i glywed yn Aberystwyth y pnawn ‘ma.

Roedd trigolion y dref wedi clywed sŵn uchel a theimlo cryndod mawr am tua 1:30 o’r gloch a chredir fod y sŵn wedi ei greu gan awyren y llu awyr oedd yn hedfan dros Aberystwyth ar y pryd.

Tonau sioc sy’n creu ‘sonic boom’ ac mae’n digwydd pan mae gwrthrych, fel awyren, yn teithio drwy’r awyr yn gynt na chyflymder sain.

Mae’n dueddol o swnio fel ffrwydrad mawr.

Dywedodd cyn-faer Aberystwyth, Dylan Lewis, ar ei gyfrif trydar: “Fe wnaeth y tŷ i gyd ysgwyd o ganlyniad i sonic boom y pawn ‘ma.”

Ac yn ôl Tammy Richmond o’r dref:  “Mae ffenestri ffrindiau i mi wedi chwalu’n deilchion ar ôl y ‘sonic boom’.”