Nigel Evans
Clywodd llys heddiw bod Nigel Evans, cyn-ddirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi defnyddio ei ddylanwad “pwerus” i ymosod yn rhywiol ar saith o ddynion ifanc.
Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n enedigol o Abertawe ac yn Aelod Seneddol Ribble Valley yn Sir Gaerhirfryn, yn wynebu naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion sy’n dyddio o 2002 hyd at 1 Ebrill y llynedd.
Mae’n gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, chwe chyhuddiad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o dreisio.
Wrth agor yr achos, dywedodd yr erlynydd Mark Heywood QC, fod gan Nigel Evans gallu i hybu gyrfaoedd y rhai oedd eisiau gweithio yn San Steffan.
Ychwanegodd bod Nigel Evans wedi defnyddio ei safle er mwyn rhoi pwysau ar ei ddioddefwyr, a’i fod wedi gwneud hynny er gwaethaf iddo gael ei rybuddio am ei ymddygiad.
Achos yr erlyniad
Meddai Mark Heywood QC: “Mae’r erlyniad yn honni ei fod ef, ar wahanol gyfnodau dros nifer o flynyddoedd, wedi ymosod yn rhywiol ar ddynion ifanc.
“Yn gynnar yn 2013, fe dreisiodd un o’r dynion ifanc.
“Mae Mr Evans, ar y llaw arall, yn gwadu’r honiadau.”
Yna, dechreuodd Mark Heywood fynd drwy bob un o’r honiadau yn unigol.
Mae’r achos yn parhau.