Mae mwyafrif o bleidleiswyr pôl piniwn golwg360 yn cytuno gyda phenderfyniad y BBC ac S4C i gwtogi ar Pobol y Cwm.
Fe gyhoeddodd y darlledwyr yn gynharach yn yr wythnos y byddai nifer rhaglenni’r opera sebon poblogaidd yn gostwng o bump i bedair yr wythnos, a bod omnibws dydd Sul yn mynd, er mwyn arbed arian.
Roedd S4C yn cyfeirio at wasanaethau gwylio ar-lein fel S4C/Clic a BBC iPlayer fel rheswm dros beidio parhau gyda’r omnibws wythnosol.
O’r 189 atebodd y pôl, roedd 58% o’r farn bod angen cwtogi ar yr opera sebon, gyda 38% yn gwrthwynebu a 4% ddim yn siŵr a oedd yn benderfyniad da ai peidio.
Dadansoddiad Iolo Cheung
Gyda’r darlledwyr yn amlwg angen arbed arian, mae mwyafrif o bleidleiswyr y pôl yn amlwg yn credu na ddylai Pobol y Cwm gael ei warchod rhag y toriadau.
Byddai rhai’n cwestiynu’r angen am omnibws ar ddydd Sul, o ystyried bod modd gwylio’r penodau ar-lein beth bynnag.
Fe ddenodd y stori am benderfyniad BBC ac S4C i gwtogi’r opera sebon gryn dipyn o ymateb ar golwg360, gyda rhai’n awgrymu bod y rhaglen wedi gweld dyddiau gwell a bod angen i’w chyllideb adlewyrchu hynny.
Ond roedd nifer sylweddol hefyd yn gwrthwynebu’r cwtogi ar raglenni – gyda rhai’n awgrymu y dylai cyflogau’r actorion fod wedi cael eu lleihau cyn cael gwared ar gynnyrch.
Ac wrth gwrs, mae’r 38% sylweddol yna’n awgrymu bod yna dal rai sydd yn hoff iawn o wylio’r rhaglen, ac a fydd yn siomedig na fydd shenanigans y Cwm i’w gweld ar y bocs ar nos Wener o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Mae’n bosib bod Dai Sgaffalde yn eistedd yn y Deri’n diawlo – “Jawch erio’d, chi ffili neud hyn i ni!” – yr eiliad hon.
Canlyniadau
A yw’r BBC ac S4C yn iawn i gwtogi ar Pobol y Cwm?
Ydyn: 58.67%
Nac Ydyn: 38.1%
Ddim yn siŵr: 4.23%
Nifer: 189