Myfyrwraig ôl-radd ac aelod o dîm trefnu Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe, Hannah Sams, sy’n rhoi blas i golwg360 o benwythnos pwysicaf calendr Cymdeithasau Cymraeg y prifysgolion…
Wrth gerdded i mewn i brif neuadd Prifysgol Abertawe ar fore Gŵyl Ddewi eleni, mi oedd yna ddigon o gennin pedr yno i’m cyfarch hyd nes fy narbwyllo bod yr haul yn gwenu, a digon o ddreigiau coch i godi braw. Mi oedd y lle yn llawn lliw a bwrlwm ac yn barod i gynnal Eisteddfod Ryng-golegol 2014.
Yr Archdderwydd ei hun, y Prifardd Dr Christine James oedd y cyntaf i gamu ar y llwyfan lle byddai gweithgareddau’r dydd yn ymddatod. Yn fuan iawn ar ôl anerchiad yr Archdderwydd ei hun, fe gadeiriwyd Prifardd Eisteddfod Ryng-gol Abertawe, sef Gruffudd Antur, myfyriwr sydd wedi llwyddo i gipio’r gadair bedair blynedd yn olynol. Mae Gruffudd bellach yn astudio ar gyfer gradd MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ar ôl iddo raddio â gradd mewn Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth y llynedd. Cywydd amdano’n gadael y Coleg ger y Lli ydyw, a’r ‘pelydrau’ [testun y Gadair] yn y gerdd yw ei atgofion am Aber. Disgrifiwyd Gruffudd Antur fel ‘un o’n cynganeddwyr cyfoes gorau’ gan y Prifardd, yr Athro Alan Llwyd.
I Fangor aeth y Goron a feirniadwyd gan Gwennan Evans, a’r Fedal Ddrama a feirniadwyd gan Gruffudd Owen. Elen Gwenllian Hughes, myfyrwraig o adran y Gymraeg Prifysgol Bangor gipiodd y goron, tra cipiodd Ffion Haf o Brifysgol Bangor y Fedal Ddrama.
Mae’n siŵr bod buddugoliaeth y tri yma wedi cynnig hwb go dda i bwyntiau Eisteddfodol Bangor gan olygu bod tarian yr Eisteddfod Ryng-golegol yn cael mynd ar daith i’r gogledd.
Mae’n amlwg bod yna ddigon o dalent ymhlith myfyrwyr Prifysgol Cymru, boed hynny’n dalent lenyddol, gerddorol neu’r gallu i yfed lot fawr o’r cwrw Tomos Watkin oedd ar werth yn y neuadd! Ymhlith uchafbwyntiau’r dydd imi’n bersonol oedd deuawd ddoniol Prifysgol Aberystwyth a meim Prifysgol Abertawe o gân o raglen gomedi Caryl ar S4C, sef ‘Rollercoaster Emotional’.
Parhau wnaeth yr hwyl tan yr hwyr hefyd, wrth i fandiau megis Uumar, Yr Eira, Y Banditos a Cowbois Rhos Botwnnog ein diddanu hyd yr oriau mân. Perthyn pob clod am lwyddiant y diwrnod i Llŷr Roberts, Llywydd Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe, cymdeithas sy’n mynd o nerth i nerth ac yn creu cryn dipyn o fwrlwm ym Mhrifysgol Abertawe, a hefyd i Lewys Aron, Swyddog Materion Cymreig Undeb y Myfyrwyr.
Dilynwch @GymGymAbertawe ar y Trydar os ydych am unrhyw wybodaeth bellach neu’n ystyried astudio yma yn y dyfodol.