Mi fydd cyfansoddwyr Cân i Gymru eleni yn rhoi’r wobr ariannol mewn cyfrif banc er mwyn helpu gyda chostau mynd i’r Coleg.

Gobaith Mirain Evans, wnaeth gyd-gyfansoddi a chanu ‘Galw Amdanat Ti’ gyda’i thad Barry, yw astudio am radd prifysgol.

A gyda ffioedd myfyriwr prifysgol dros £3,000 y flwyddyn, bwriad y tad a’r ferch yw rhoi’r £3,500 o wobr i’r nail ochr ar gyfer talu am ei haddysg.

Ar hyn o bryd mae’r ferch 16 oed o Chwilog yn sefyll arholiadau TGAU, ac yn gobeithio mynd ymlaen i astudio Lefel ‘A’ mewn Cerddoriaeth a Drama.

Plymar yw ei thad Barry Evans, a bu’n canu gyda’r Moniars am flynyddoedd yn ei lencyndod.

Bellach yn 41 oed, mae’n dweud mae rhoi’r cyfle i’w ferch wireddu ei photensial sy’n bwysig.

“Dw i ddim wir wedi meddwl am ddyfodol Mirain o ran Coleg, felly mae [yr arian] yn mynd i roi help mawr tuag at gostau mynd i Coleg,” meddai Barry Evans.

“Geith [yr arian] fynd fewn i ISSA account i Mirain. Wneith o helpu hi lot mwy na fysa fo’n helpu fi rŵan.”

Canu yn Iwerddon

Bydd y ddau yn teithio i Derry fis nesa’ i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, ac roedd cyfarfod yn Chwilog ddechrau’r wythnos a Barry Evans yn dweud fod “hanner y pentre’” eisiau trafod teithio i Iwerddon i’w cefnogi.

Ar ôl gorffen ffilmio Cân i Gymru ym Mhafiliwn Môn fe gyrhaeddodd Barry Evans Dafarn y Madryn yn Chwilog am hanner nos gyda’i ferch.

“Roedd hi’n hollol orlawn yna, pawb yn jesd sgrechian pan wnaethon ni gerdded i mewn. Absolutely amazing. Mor emosiynol.”

Ni fu fawr o gwsg y noson honno, a daeth galwad cynnar i ddeffro Barry Evans ben bore.

“Es i adre’ tua pedwar yn bore, ac es i wylio’r rhaglen [Cân i Gymru] ar ôl cyrraedd adref. Wedyn gesh i alwad ffôn with o’r gloch y bore gan Radio Cymru, eisiau siarad…gesh i ryw dair awr o gwsg.”