Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cwtogi’r gyfres opera sebon Pobol y Cwm o fis Medi ymlaen, gan leihau nifer y rhaglenni wythnosol o bump i bedwar, a chael gwared ar yr omnibws ar ddydd Sul.

‘Newidiadau i arferion gwylio’ sydd yn gyfrifol am hyn, yn ôl S4C, ac maen nhw’n cyfeirio at wasanaethau gwylio ar-lein fel S4C/Clic a BBC iPlayer fel rheswm dros beidio parhau gyda’r omnibws wythnosol.

Fe fydd y penderfyniad yn arbed arian i’r sianeli, wrth gwrs, gyda’r BBC yn ariannu’r rhaglen ond S4C yn cyfrannu at yr omnibws.

Ond a yw’r darlledwyr wedi gwneud y penderfyniad iawn wrth gwtogi Pobol y Cwm, un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C?

A yw oes aur Pobol y Cwm ar ben? A fyddai’n well gwario’r arian ar raglenni eraill? Neu a fydd hyn yn ergyd mawr i gynnyrch gwreiddiol ac apêl y sianel?