Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi newidiadau yn strwythur eu cwricwlwm heddiw, gyda mwy o bwyslais ar weithio yn y gymuned.
Nod y strwythur newydd yw cadw mwy o feddygon yng Nghymru.
Fe fydd gofyn i fyfyrwyr fynd allan i gartrefi cleifion fel rhan o’r cwrs newydd, a dysgu mwy am y clefydau mwyaf cyffredin yn y gymdeithas.
Y myfyrwyr eu hunain sydd wedi gofyn am y newidiadau fel rhan o arolwg o’r cwrs presennol.
Dywedodd Dr Phil White o Gymdeithas Feddygol y BMA wrth BBC Radio Cymru y bore ma mai “cyfathrebu yw’r broblem fwya sy efo ni”.
Mae modd astudio elfennau o’r cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd trwy gyfrwng y Gymraeg ers dechrau’r flwyddyn academaidd bresennol.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ariannu’r cwrs.
Diffyg meddygon
Y llynedd, galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ddenu rhagor o feddygon i weithio yn ysbytai Cymru.
Yn ôl ymchwil y llynedd gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae 24 o feddygon am bob 10,000 o bobol yng Nghymru – cyfradd sy’n llai na gwledydd Kazakhstan a Moldofa.
Dim ond Gwlad Pŵyl a Rwmania yn Ewrop sydd â llai o feddygon y pen na Chymru.