Mae dau o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn marwolaeth merch fach 2 oed, meddai’r heddlu.
Cafodd swyddogion eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans am 11.44yh nos Fawrth i dy yn Stryd Jameson yn Blackpool yn dilyn adroddiadau bod plentyn wedi cael trawiad ar y galon.
Cafodd ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Fictoria Blackpool ond fe fethodd doctoriaid i’w hachub.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal i ddarganfod beth oedd achos ei marwolaeth.
Cafodd dwy ddynes, 29 a 65 oed, a dau ddyn, 41 a 60 oed, o Blackpool, eu harestio am amheuaeth o esgeuluso plentyn.
Mae’r ddynes 29 oed a’r dyn 41 oed bellach wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae’r ddau berson arall wedi cael eu rhyddhau.
Dywed Heddlu Sir Gaerhirfryn eu bod yn cynnal ymchwiliad llawn.