Portmeirion
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi rhai o’r artistiaid fydd yn rhan o line-yp yr ŵyl sy’n dychwelyd i bentref Portmeirion eto eleni.

Beck, London Grammar, a Chôr y Brythoniaid sydd ymysg yr uchafbwyntiau ac mae artistiaid eraill sydd wedi cael eu cadarnhau yn cynnwys Bonobo, Martha & the Vandellas, Neneh Cherry a Jimi Goodwin.

Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol y llynedd, gyda’r Manic Street Preachers yn cymryd eu lle ar y prif lwyfan i ddiddanu cynulleidfa o tua 7,000.

Cafodd yr ŵyl ei enwi’n Ŵyl Newydd Orau yng ngwobrau’r cylchgrawn NME y llynedd a’i henwebu am yr Ŵyl Fach orau eleni.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 5-7 Medi eleni ac mae mwy o artistiaid eto i’w cyhoeddi.

Dyma linc i dudalen facebook yr ŵyl os am weld gweddill yr artistiaid: https://www.facebook.com/photo.php?fbid=551413911623356