Castell Caerdydd, safle Gwyl Tafwyl
Prifysgol Caerdydd fydd prif noddwyr Gŵyl Tafwyl am y tair blynedd nesaf, gan gyfrannu £22,000 at goffrau’r ŵyl.

Mae gŵyl gymuned Cymraeg fwyaf Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd eleni gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y ddinas, o Ganolfan Gelf Chapter a bar Porters, i’r Amgueddfa Genedlaethol a Chlwb Ifor Bach.

Fel noddwr swyddogol Tafwyl, bydd Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ar ei chysylltiadau presennol â’r ŵyl a’i threfnwyr, Menter Caerdydd.

Bydd ymchwil sydd wedi ei gynnal gan academyddion Cymraeg yn cael ei arddangos yn yr ŵyl, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o weithgareddau’r Brifysgol a denu darpar fyfyrwyr.

Gobaith am ŵyl barhaol

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hywel Thomas, fod gan y Brifysgol ymrwymiad cryf i’r Gymraeg ac i’w chymunedau cyfagos:

“Erbyn hyn, mae gennym fwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith nag erioed o’r blaen a chredwn fod yr ŵyl yn fan cyfarfod gwych i selogion y Gymraeg o bob gallu ddod at ei gilydd i ddathlu cyd-werthfawrogiad o’n hiaith sy’n tyfu ac yn esblygu o hyd.

“Yn y blynyddoedd sydd i ddod, rwy’n gobeithio y bydd cyfraniad y Brifysgol at yr ŵyl yn helpu i’w gwneud yn ddigwyddiad yr un mor barhaol â’r Eisteddfod yng nghalendr diwylliannol Cymru.”

Ac meddai Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis: “Mae’r gefnogaeth gan y Brifysgol yn cynnig sicrwydd i’r ŵyl ac yn galluogi’r Fenter i gynllunio at ddyfodol llewyrchus.”

Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o 11-18 Gorffennaf. Daw’r wythnos i ben â ffair undydd, a ddenodd dros 12,000 o bobol y llynedd ac y disgwylir iddi ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr eleni.