Cig oen Cymru
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o Enwau Bwyd Gwarchodedig yng ngwledydd Ewrop, gan gynnwys cig oen a chig eidion Cymreig.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, bu’r prosiect yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr yn Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal am fanteision statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).
Ac mae digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Undeb Amaethwyr Cymru yn y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel heddiw i nodi llwyddiant y prosiect.
Mae label PGI yn golygu mai dim ond cig o ddefaid a gwartheg sydd wedi’u geni a’u magu yng Nghymru ac sydd wedi’u lladd mewn lladd-dai sydd wedi’u cymeradwyo gan HCC sydd â’r hawl gyfreithiol i gael ei ddisgrifio’n Gig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru.
Hwb i werthiant ac elw
Pan ddechreuodd y prosiect yn 2010, dim ond 6% o’r defnyddwyr yn yr Almaen oedd yn ymwybodol o PGI. Erbyn 2013 roedd wedi cynyddu i 27%. Ac yn Ffrainc, mae ymwybyddiaeth wedi cynyddu o 14% i 33% yn ystod yr un cyfnod, ac yn yr Eidal mae ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr wedi cynyddu o 34% i 57%.
“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos pa mor effeithiol yw ymgyrch farchnata wedi’i threfnu’n dda,” meddai Cadeirydd HCC, Dai Davies.
“Mae’n golygu bod defnyddwyr sy’n gweld y logo PGI wrth ochr logos Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru yn gwybod ei fod yn gynnyrch dilys a gafodd ei gynhyrchu i’r safonau gorau posibl yng Nghymru – ac mae hynny’n hwb i werthiant ein cynhyrchion ac yn trosglwyddo arian yn ôl i Gymru.”
Dywedodd Dai Davies ei fod hefyd am longyfarch yr undeb am drefnu’r digwyddiad: “Mae hwn yn ddigwyddiad rhagorol er mwyn arddangos y dewis eang o fwyd o’r safon uchaf sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru,” meddai.