Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i gefnogi nifer o bysgotwyr yng Nghymru sydd wedi gweld eu busnesau yn dioddef yn sgil y stormydd diweddar.

Mae offer nifer o bysgotwyr yng Nghymru wedi cael eu difrodi sydd o ganlyniad wedi effeithio’n negyddol ar eu busnesau, yn ôl gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru.

Ac fe fyddai angen i’r busnesau hyn ddod o hyd i gyllid sylweddol i allu prynu offer newydd neu atgyweirio’r offer sydd wedi ei ddifrodi.

Dywedodd Alun Davies, y Gweinidog Adnoddau Naturiol:

“Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch newydd yma o gymorth i bysgotwyr i atgyweirio eu hoffer ac i gymunedau arfordirol Cymru ail gydio mewn pethau.

“Rydym dal wrthi yn gweithio’n galed i asesu’r difrod ac i gefnogi’r rheiny sydd angen y mwyaf o gymorth.”