Christine James
Archdderwydd Cymru Christine James fydd yn agor Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe eleni.

Mae hi hefyd yn Uwch Ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi yn y Brifysgol.

Mae’r digwyddiad blynyddol ar gyfer colegau Cymru’n cael ei gynnal yn y ddinas y penwythnos hwn.

Bydd digwyddiadau’r penwythnos yn cynnwys noson gwis, yr Eisteddfod ei hun a gig gyda rhai o fandiau amlycaf y sin roc Gymraeg.

Fe fydd gala chwaraeon yn agor y cyfan ar brynhawn Gwener, ac fe fydd Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Y Banditos, Yr Eira ac Uumar yn perfformio yn y gig nos Sadwrn.

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan y Gymdeithas Gymraeg ac Undeb y Myfyrwyr, ac mae’n gyfle i “sicrhau llwyfan i hybu dawn a thalent myfyrwyr Cymru”.

Dywedodd Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Lewys Aron: “Mae’n bleser cael y fraint o gynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol yma, a gyda dathliadau Gŵyl Dewi ar y dydd Sadwrn, mae hyn yn rhoi cyfle euraidd i’r Gymdeithas Gymraeg, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ar draws y campws.”

Mae’r Brifysgol wedi rhoi cefnogaeth ariannol i’r myfyrwyr i drefnu’r digwyddiad.

‘Profiad Cymreig bywiog’

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Iwan Davies: “Mae Prifysgol Abertawe, ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn parhau i wneud.

“Mae’r Eisteddfod Ryng-golegol yn gyfle gwych i ni ymfalchïo yn y profiad Cymreig bywiog sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae’n addas iawn felly bod Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Dr Christine James, sydd yn Uwch-ddarlithydd yma yn y Brifysgol, yn agor yr Eisteddfod yn swyddogol fore Sadwrn. Dymunaf bob llwyddiant a mwynhad i’r myfyrwyr.”

Bydd ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360, Y Geltaidd, hefyd yn cystadlu yn y gala chwaraeon Ryng-Golegol ar brynhawn dydd Gwener.