Bydd Gŵyl Ffilm flynyddol PICS, sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r diwydiant ffilm Gymreig, yn dychwelyd i’r Galeri yng Nghaernarfon y penwythnos yma.

Mae’r ŵyl bellach yn ei seithfed flwyddyn a bydd arlwy o ffilmiau amrywiol o Gymru a thu draw i’r ffin yn cael eu dangos, ond yn canolbwyntio ar ffilmiau byrion gan blant a phobol ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd 18 gwobr yn cael eu rhannu gyda 13 ffilm fer  – categori cynradd, uwchradd, hyn, animeiddio – a 3 sgript yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol am eu gwaith.

Llysgennad yr Ŵyl yw’r actor Mathew Rhys, sydd wedi nodi pwysigrwydd gwyliau o’r fath:

“’Rwyf yn falch iawn o fod yn llysgennad gŵyl PICS. Dwi’n meddwl ei bod hi’n wych fod pobol ifanc yn cael y cyfle i ddweud eu stori yn eu hiaith eu hunain, a bod y rhaglen yn wych ar gyfer yr ŵyl.”

‘Unigryw’

Yn ôl llefarydd ar ran Galeri, Caernarfon – trefnwyr PICS: “Ers trefnu’r Ŵyl am y tro cyntaf yn 2006, mae ‘na gategorïau ffilmiau newydd wedi cael ei ychwanegu, ac amryw o weithdai penodol yn y maes ffilm yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn.

“Ond beth sydd yn gwneud y digwyddiad yma yn gwbl unigryw yw bod y gweithdai, sgyrsiau a’r gwobrau yn hyrwyddo’r iaith ac yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Bydd yr Ŵyl yn cychwyn ar ddydd Iau, 27 Chwefror ac yn rhedeg hyd at nos Lun, 3 Mawrth yn y Galeri, Caernarfon.