Pol piniwn golwg360
Mae hanner y bobl a bleidleisiodd ar bôl piniwn golwg360 wedi dweud eu bod nhw am weld S4C yn symud ei phencadlys i Gaernarfon.
Y dref ogleddol ddaeth i’r brig yn y pôl, gyda 49.5% o’r bleidlais, o flaen Caerfyrddin a ddenodd 32.5% o’r mil a bleidleisiodd.
Dewisodd 13.3% yr opsiwn o gadw’r pencadlys yn ei safle presennol yng Nghaerdydd, tra bod 4.7% wedi dweud y dylai’r sianel edrych ar rywle arall heblaw am y tri lleoliad hynny.
Mae S4C yn y broses o bwyso a mesur a ydyn nhw am symud eu Pencadlys, gyda threfi Caerfyrddin a Chaernarfon wedi gwneud cynigion i’w denu.
Gall y sianel hefyd benderfynu nad ydyn nhw am symud o gwbl, ac aros yn eu safle presennol yng Nghaerdydd.
‘Trafodaeth iach a phwysig’
Mewn datganiad dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, fod y sianel yn croesawu’r drafodaeth ac y byddai’n rhaid i’r penderfyniad terfynol fod yn un cost-niwtral.
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl ddiddordeb sydd wedi’i ddangos yn ein hastudiaeth ddichonoldeb ar adleoli’n pencadlys,” meddai Garffild Lloyd Lewis. “A’r holl frwdfrydedd sydd wedi dod i’r amlwg dros sicrhau presenoldeb Pencadlys S4C yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon.
“Mae gwaith manwl wedi ei wneud ar y cyd ag arweinwyr y ceisiadau ac mae hynny wedi sbarduno trafodaeth iach a phwysig. Da gweld honno’n cael ei chynnal yn llawn ar y teledu, radio, y we, y cyfryngau cymdeithasol ac ar lawr gwlad.
“Ein bwriad wrth wneud yr astudiaeth yw gweld a fyddai’n bosib inni gymryd cam mawr fyddai’n cynnig manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol – ond mewn ffordd fydd o fudd i’n gwasanaeth ac yn gost-niwtral dros gyfnod.”
Dadansoddiad Iolo Cheung
Mae Caernarfon yn amlwg yn ddewis poblogaidd iawn ymysg y rheiny a bleidleisiodd, gan ddenu yn agos at hanner y bleidlais yn y pôl piniwn.
A chyda dros 1,000 o bobl wedi pleidleisio mae’n amlwg fod y gefnogaeth honno’n estyn i lawr gwlad ac nid yn unig yn deillio o’r dwsinau o bobl fyddai’n elwa o weld hwb cyfryngol yn datblygu yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Wrth gwrs, fe ddenodd Caerfyrddin gefnogaeth eang hefyd gyda’n agos i draean yn dewis y dref honno fel y lleoliad gorau ar gyfer S4C – ac mae gan ‘Yr Egin’, yr ymgyrch sydd yn ceisio denu’r sianel i Sir Gâr, dros 1,500 o bobl yn eu ‘hoffi’ ar Facebook o’i gymharu â 1,350 i dudalen ‘S4icaernarfon’.
Mewn llythyr yn Golwg yr wythnos hon mae Alun Lenny yn dadlau y byddai lleoli’r Pencadlys yng Nghaerfyrddin yn “fodd i aildanio gweledigaeth” Gwynfor Evans, un o feibion enwocaf yr ardal.
Diddorol hefyd yw nodi nad oedd llawer wedi dewis yr opsiwn o aros yng Nghaerdydd – mae’n ymddangos bod symud Pencadlys S4C i leoliad gwahanol yn un poblogaidd.
A tybed ble’r oedd y 5% a ddewisodd ‘rhywle arall’ am i’r sianel fynd? Aberystwyth? Wrecsam? Abertawe?
Cafodd linc i bôl piniwn golwg360 ei rannu’n eang gan gefnogwyr o’r ddwy ochr ar wefannau cymdeithasol, ac mae’n deg dyfalu felly bod llawer o’r rheiny a bleidleisiodd wedi cefnogi’r ymgyrch sydd yn lleol i’w hardal nhw.
Ond tybed a yw hynny’n arwydd o rywbeth arall y mae’r pôl wedi’i amlygu? Yn syml, a oes mwy o ddarllenwyr golwg360 yn ‘gogs’ nag yn ‘hwntws’?
Canlyniadau:
Caerdydd – 13.27% (133)
Caerfyrddin – 32.53% (326)
Caernarfon – 49.5% (496)
Rhywle arall – 4.69% (47)
Nifer: 1002