Guto Rhun
Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi newid i raglen C2 ar ôl iddyn nhw ddarganfod cyflwynydd ifanc newydd yn sgil yr ymgyrch ‘Cais am Lais’.

Fe lansiodd yr orsaf radio’r ymgyrch y llynedd i geisio darganfod darlledwyr y dyfodol, ac roedd Guto Rhun o ardal Machynlleth yn un o’r rhai a anfonodd recordiad o’i hun i griw C2.

Er nad oedd Guto erioed wedi cyflwyno ar y radio o’r blaen mae’n amlwg iddo wneud argraff ar yr orsaf, gyda C2 bellach wedi cynnig slot o awr ddwywaith yr wythnos iddo’n dechrau ar 10 Mawrth.

Bydd Guto i’w glywed ar Radio Cymru am 9yh bob nos Lun a nos Wener, gyda’r cyflwynydd newydd yn dweud ei fod yn addo rhaglen llawn hiwmor a cherddoriaeth gyfoes y siartiau, a bod angen mwy o gerddoriaeth bop yn ôl i’r sin Gymraeg.

“Dwi methu aros i gael chware tiwns, dod i nabod y gwrandawyr a chael parti yn y stiwdio!” meddai Guto, sydd newydd raddio o’r Brifysgol.

Dywedodd Radio Cymru fod sawl person wedi cael eu darganfod trwy ‘Cais am Lais’, ac y byddant yn cael y cyfle i gyfrannu at C2 yn y dyfodol.