Mae holl ganeuon Cân i Gymru 2014 nawr ar gael ar wefan S4C. Dyma’r cyfle cyntaf i chi glywed pob un o’r caneuon fydd yn cystadlu am y tlws yn fyw ar S4C nos Wener nesa’.

O fynd i s4c.co.uk/canigymru gallwch wrando a dweud beth yw eich argraff gyntaf drwy ddefnyddio #CIG2014 ar Twitter neu adael sylw ar Facebook – facebook.com/canigymru.

Ac wrth drafod y gystadleuaeth, mae nifer o’r cyfansoddwyr ar y rhestr fer wedi dweud mai’r newidiadau diweddar i drefn y gystadleuaeth sy’n rhannol gyfrifol am eu denu i drio eleni.

Yn 2013, fe gyflwynwyd trefn newydd sy’n caniatáu rhyddid i’r cyfansoddwyr gynhyrchu eu cân ar gyfer y rownd derfynol, gan weithio gyda chynhyrchydd a stiwdio o’u dewis.

Elin Fflur a Gethin Evans sy’n cyflwyno’r noson yn fyw o Bafiliwn Môn.

Y caneuon a’r cystadleuwyr

‘Aderyn y Nos’ gan Gruff Siôn Rees

‘Agor y Drws’ gan Y Cledrau – Joseff Owen, Marged Gwenllian, Ifan Prys ac Alun Roberts

‘Ben Rhys’ gan Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris

‘Brown Euraidd’ gan Kizzy Meriel Crawford

‘Dydd yn Dod’ gan Ifan Davies a Gethin Griffiths

‘Galw Amdanat Ti’ gan Barry a Mirain Evans