Jessie J
Y gantores Jessie J fydd yn arwain yr ail ddiwrnod o’r ŵyl gerddorol Access All Eirias ym Mae Colwyn eleni.
Bydd Jessie J yn canu am y tro cyntaf ar lwyfan awyr agored yng Nghymru – a hynny 24 awr ar ôl i Tom Jones chwarae ei gyngerdd awyr agored mawr cyntaf yn y gogledd hefyd.
Roedd y gantores yn feirniad ar raglen The Voice y llynedd, ynghyd a Tom Jones, ac mae hi wedi gwerthu tua 15 miliwn o recordiau ledled y byd. Dwedodd ar ôl derbyn y gwahoddiad:
“Dwi wedi gwirioni cael dod i Access All Eirias a chael parti gyda fy holl gefnogwyr Cymraeg.”
‘Digwyddiad mawr gorau Prydain’
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n trefnu Access All Eirias ac mae’n cael ei gefnogi gan Gymdeithas Adeiladu Principality mewn partneriaeth â’r grŵp cyfryngau a digwyddiadau Cymreig, Orchard.
Meddai Cyfarwyddwr Orchard, Pablo Janczur: “Roeddem yn hynod o falch o gyhoeddi ein bod yn dod â Tom Jones i gynulleidfa Gogledd Cymru, ac mae hynny wedi profi’n boblogaidd iawn gyda thocynnau’n gwerthu’n gyflym.
“Nawr rydym wedi cael Jessie J, enw mawr arall, ar gyfer yr hyn fydd heb amheuaeth yn un o’r digwyddiadau mawr gorau ar draws y DU yr haf hwn.
“Rhowch 25 a 26 Gorffennaf yn eich dyddiadur – bydd yn fythgofiadwy!”
Ychwanegodd y Cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet Twristiaeth, Marchnata a Hamdden yng Nghonwy:
“Mae Access All Eirias yn cael effaith gadarnhaol iawn ar Fae Colwyn ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth, brwdfrydedd a chyffro a ddangosir gan bobl o bob oed, o bob rhan o’r rhanbarth, ar gyfer y digwyddiad hwn.”