Fe fydd Cymro o Sir Benfro yn anelu am fedal ddydd Sadwrn pan fydd tîm pedwar dyn Prydain yn cystadlu mewn bobsled yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ddydd Sadwrn.

Cafodd Bruce Tasker ei fagu yn Sir Benfro a’i addysgu yn Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-Pysgod, ac yna ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Yn fiocemegydd o ran ei hyfforddiant, bu’n cystadlu mewn bobsled ers 2010, ac mae e wedi cystadlu ym mhencampwriaethau Ewrop a’r Byd.

Mentrodd i fyd y campau fel gwibiwr, gan gynrychioli Harriers Caerfyrddin ac Abertawe dros bellter o 100m, 200m a’r naid hir.

Enillodd Bencampwriaethau Dan Do Prydain dros bellter o 400m dair blynedd o’r bron yng nghategorïau oedran dan 17 a dan 20.

Ar ôl rhoi’r gorau i athletau, penderfynodd symud i fyd y campau gaeafol a chael ei ddewis yn y pen draw i gynrychioli Prydain.

Mae adroddiadau’n awgrymu mai Tasker fydd gyrrwr nesaf y tîm, sef y safle mwyaf dylanwadol yn y tîm.

Mae nawdd gan Gronfa’r Loteri yn golygu bod tîm Prydain wedi gallu derbyn hyfforddiant er mwyn anelu am fedal eleni.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal am 4.30pm ddydd Sadwrn.