Harry Wilson
Os oedd rhai o gefnogwyr Cymru’n amau doethineb Chris Coleman yn rhoi cap cyntaf i Harry Wilson ag yntau’n ddim ond 16 oed yn yr Hydref, mae’r asgellwr dawnus wrthi’n gwneud popeth y gallai i wireddu’i botensial.

Daeth Wilson y chwaraewr ieuengaf erioed i gamu i’r maes yn y crys coch pan ymddangosodd fel eilydd yn gêm gystadleuol ddiwethaf Cymru ym mis Hydref, i ffwrdd yng Ngwlad Belg.

Ac mae wrthi’n gwneud gwaith da yn profi nad hap a damwain oedd y cap hwnnw, gan serennu i dîm dan-18 Lerpwl y tymor hwn yn barod.

Ddoe fe sgoriodd ei ddegfed gôl o’r tymor wrth i Lerpwl drechu Watford yn rownd 16 olaf Cwpan Ieuenctid yr FA.

Ychwanegodd honno at y ddwy a sgoriodd yn y rownd ddiwethaf, pan ddaeth oddi ar y fainc a rhwydo dwywaith yn erbyn Aston Villa i ennill y gêm 3-1.

Dyma fideo o rai o goliau Harry Wilson i dîm ieuenctid Lerpwl hyd yn hyn:

A’r ddwy a sgoriodd yn erbyn Aston Villa yn y rownd diwethaf (2.28 ymlaen):