Mae yna dri newid i flaenwyr tîm merched Cymru yn y gêm yn erbyn Ffrainc brynhawn Sul ar gae’r Talbot Athletic.

Mae Jenny Davies, chwaraewr mwyaf profiadol Cymru gyda 62 o gapiau yn cymryd lle Megan York fel prop penrhydd.  Daw Sioned Harries nôl i’r rheng-ôl gyda Nia Davies yn symud i’r ail-reng sy’n golygu bod Jenny Hawkins yn gorfod bodloni ar le ar y fainc.

Yn ôl prif hyfforddwr y merched Rhys Edwards: ‘‘Mae Jenny wedi gwneud argraff wrth ddod oddi ar y fainc ac yn haeddu dechrau yn erbyn Ffrainc.  Nia yw ein blaenwr mwyaf effeithiol ar y funud, ac felly yr ydym wedi ei rhoi yn yr ail-reng fel bod Sioned yn medru dod nôl i’r rheng-ôl.

“Mae’n bwysig ein bod yn cael y cydbwysedd yn y pum blaen yn iawn.  Mae’r olwyr yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud a sicrhau ei bod yn gorffen y symudiadau – rhywbeth nad ydym wedi ei wneud hyd yn hyn,’’ meddai Edwards.

Mae Cymru wedi colli mewn gemau agos i’r Eidal a’r Iwerddon ac mae Edwards yn ymwybodol o’r her sydd o’u blaen.

‘‘Mae Ffrainc yn dîm cryf ar y funud.  Mae’n rhaid ei bod yn un o dimau gorau’r byd.  Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau os ydym am gael buddugoliaeth gyntaf y gystadleuaeth,’’ ychwanegodd Edwards.

Bydd y gic gyntaf am 2 o’r gloch brynhawn Sul.

Tîm Cymru

Olwyr – Dyddgu Hywel, Elen Evans, Robyn Wilkins, Rebecca de Filippo, Philippa Tuttiett, Elinor Snowsill a Amy Day.

Blaenwyr – Jenny Davies, Lowri Harries, Catrin Edwards, Nia Davies, Shona Powell Hughes, Catrina Nicholas, Sioned Harries a Rachel Taylor (Capten).

Eilyddion – Carys Phillips, Megan York, Caryl Thomas, Jenny Hawkins, Sian Williams, Sian Moore, Laurie Harries a Elli Norkett.