Leon Britton
Mae chwaraewr canol cae Abertawe Leon Britton wedi dewis mai’r gêm yn erbyn Napoli ar y Liberty heno fydd eu her fwyaf yn y gystadleuaeth Ewropa.
Dywedodd Britton bod y garfan wedi paratoi yn dda ar gyfer y gêm yn erbyn tîm o’r Eidal sy’n cael ei rheoli gan gyn-reolwr Lerpwl a Chelsea, Rafa Benitez.
‘‘Maent ar rediad da ac mae Gonzalo Higuain a Marek Hamsik yn chwaraewyr arbennig o dda ac mae Benitez yn rheolwr profiadol,’’ dywedodd Britton.
‘‘Mae’n debyg mai Napoli yw’r ffefrynnau i gyrraedd yr 16 olaf yn y gystadleuaeth ac i gwrdd a Eintracht Frankfurt neu Porto.
“Yr ydym yn edrych ymlaen at y gêm, ac mae’n brofiad da i ni chwarae yn y gystadleuaeth ac wynebu timau tramor gyda’r gwahanol dactegau a dulliau o chwarae a gobeithio y gallwn gael canlyniad da,’’ ychwanegodd Britton.