Warren Gatland
Mae hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland wedi rhybuddio y bydd perfformiad gwael yn erbyn Ffrainc yn dynodi diwedd gyrfa ryngwladol rhai o’r chwaraewyr.
‘‘Roedd y perfformiad yn erbyn Iwerddon yn siomedig ac yn annerbyniol. Rydym wedi bod yn trafod y modd y bydd yn rhaid i ni ymateb i’r perfformiad hwnnw yn erbyn Ffrainc nos Wener.
“Fe fydd y gêm yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm yn gyfle i’r chwaraewyr daro’n ôl ac ennill hunan barch. Os na fydd rhai ohonyn nhw’n ymateb i’r her ni fyddan nhw’n chwarae eto i’r tîm cenedlaethol,’’ dywedodd Gatland.
Bydd tîm Ffrainc yn dod yma yn llawn hyder ar ôl cael dwy fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth. Os am gipio’r bencampwriaeth am y drydedd flwyddyn yn olynol bydd yn rhaid i Cymru gael buddugoliaeth nos Wener.
Dyfarnwr y gêm fydd y Gwyddel Alain Rolland, a fydd yn dyfarnu ei gêm brawf olaf cyn ymddeol ar ddiwedd y tymor. Rolland wnaeth anfon capten Cymru o’r cae yn ystod Cystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2011, am dacl waywffon.
Bydd Rhys Webb yn dechrau am y tro cyntaf fel mewnwr ar ôl ymddangos bedair gwaith fel eilydd. Bydd yn rhaid i Mike Phillips fodloni ar le ar y fainc.
Mae George North yn dechrau yn y canol yn dilyn yr anaf i Scott Williams. Mae’n debyg i North gael ei ddewis o flaen James Hook gan fod canolwr mawr nerthol Ffrainc Mathieu Bastareaud wedi gwella yn dilyn anaf ac yn dechrau’r gêm.