Y cynlluniau arfaethedig ar gyfer Park Avenue
Mae CPD Aberystwyth wedi cyhoeddi cynlluniau gwerth £13m i ddatblygu eu maes presennol yn Park Avenue fydd yn gweld cae 3G yn cael ei osod.

Mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig o’r clwb neithiwr fe ddangosodd y cadeirydd Tony Bates y cynlluniau ar gyfer datblygu’r maes, fydd hefyd yn cynnwys fflatiau a stand newydd.

Bydd y datblygiad yn cael ei wneud ar y cyd gyda Thai Ceredigion, a’r bwriad yw codi 80 o fflatiau wrth ymyl y stadiwm ger yr afon.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cae 3G, stand newydd gyda 500 o seddi, a chyfleusterau cymunedol gan gynnwys bwyty a chanolfan ieuenctid.

Mae Uwch Gynghrair Cymru wedi’i tharo’n wael gan y tywydd garw diweddar, gyda nifer o gemau’n cael eu gohirio, a mae hynny wedi arwain at fwy o alw am ystyried caeau pob tywydd ar feysydd y gynghrair.

Ar hyn o bryd TNS yw’r unig dîm yn y gynghrair sydd yn chwarae ar gae artiffisial.

Cae cymunedol

Dywedodd CPD Aberystwyth wrth golwg360 na allen nhw gadarnhau eto sut fydd cost y prosiect yn cael ei rannu rhwng Tai Ceredigion a’r clwb, oherwydd bod cynlluniau’n parhau i gael eu trafod.

Doedd y clwb ddim am gadarnhau chwaith a fyddai’n rhaid iddyn nhw ffeindio safle newydd i chwarae’u gemau cartref tra byddai’r datblygiad yn digwydd.

Ond mewn datganiad dywedodd y clwb eu bod yn gobeithio y gall y cae 3G, fydd ar gael i’w defnyddio mewn pob tywydd, yn gallu bod yn hwb i weithgareddau cymunedol drwy gydol yr wythnos.

“Er bod nifer o rwystrau dal angen eu clirio, mae Tai Ceredigion a Chlwb Pêl-droed Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud i’r cynllun cyffrous hwn weithio,” meddai Tony Bates wrth wefan y clwb.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo’n unfrydol yn y cyfarfod, ac mae’r clwb yn gobeithio dechrau ar y gwaith ym mis Medi 2014.

Yn y cyfarfod fe gyhoeddodd CPD Aberystwyth hefyd eu bod wedi gwneud colled flynyddol o £12,104, 5% o’u trosiant o £215,905.