Bydd Gleision Caerdydd yn gobeithio am fuddugoliaeth heno yn erbyn Leinster yn y gystadleuaeth Pro 12 ar ôl coll i Glasgow’r penwythnos diwethaf.

Fe ddaw’r blaenasgellwr rhyngwladol Josh Navidi nôl i’r tîm ar ôl bod allan oherwydd yr anaf a ddioddefodd yn erbyn Toulon y mis diwethaf.  Mae’r Cyfarwyddwr Rygbi Phil Davies wedi gwneud saith newid i’r tîm a ddechreuodd yn erbyn Glasgow.  Bydd yr asgellwr ifanc Owen Jenkins yn dechrau’r gêm.

Fe wnaeth Jenkins arwyddo cytundeb tymor hir gyda’r Gleision y mis diwethaf.  Gavin Evans a Isaia Tuifyua fydd y canolwyr.  Bydd Gareth Davies a Lewis Jones yn cael cyfle i chwarae gyda’i gilydd fel mewnwr a maswr.

‘‘Mae 22 o’r chwaraewyr yn absennol oherwydd eu bod ar ddyletswydd ryngwladol neu yn dioddef o anafiadau, ond y mae gennym ffydd yn y chwaraewyr fydd yn chwarae.  Mae gennym nifer o chwaraewyr addawol ac fe fyddant yn awyddus i greu argraff.  Mae’r garfan wedi gweithio’n galed ac mae hwn yn gyfnod pwysig o’r tymor,’’ dywedodd Phil Davies.

‘‘Fe fydd Leinster yn dîm nerthol ac yn her enfawr i ni.  Yr ydym yn gwneud ein gorau i fod yn y chwech uchaf yn y gynghrair ac mae’n rhaid i ni baratoi i fod yn gryf yn gorfforol ac yn feddyliol,’’ ychwanegodd Davies.

Bydd y gic gyntaf ar Barc yr Arfau am 8:05yh.

Tîm y Gleision

Olwyr – Dan Fish, Owen Jenkins, Isaia Tuifua, Gavin Evans, Harry Robinson, Gareth Davies a Lewis Jones.

Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Kristian Dacey, Scott Andrews, James Down, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi a Robin Copeland.

Eilyddion – Rhys Williams, Tom Davies, Patrick Palmer, Chris Dicomidis, Luke Hamilton, Tomos Williams, Simon Humberstone a Tom Williams.