Vicki Adams o dim Prydain yn Sochi
Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn gobeithio manteisio ar boblogrwydd cwrlio yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi trwy gynnig sesiynau blasu i ddechreuwyr.
Bydd cyfle i unrhyw un sydd am roi cynnig arni fynd i’r ganolfan hamdden ar Fawrth 3, 10 neu 17 rhwng 5-8pm.
Mae gan y ganolfan arwyneb hoci iâ maint Olympaidd, ac fe ddywedodd trefnydd y sesiynau, John Stone wrth Golwg360 fod y gamp bob amser yn fwy poblogaidd ar adegau’r Gemau Olympaidd.
“Mae tipyn o bobol wedi dangos diddordeb yn y sesiynau eisoes, ac rydan ni wedi llwyddo i ddenu pobol o Ogledd Lloegr hefyd.
“Mae’r sesiynau bob amser yn fwyaf poblogaidd adeg y Gemau Olympaidd, ac mae’n hawdd gweld pam os ydach chi wedi bod yn dilyn y gemau yn Rwsia eleni.”
Dywedodd fod llefydd ar gyfer y sesiynau’n brin, a bod rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Mae gan y clwb cwrlio, sydd â’i gartref yn y ganolfan hamdden, oddeutu 80 o aelodau, ac mae rhai ohonyn nhw’n cystadlu mewn cystadlaethau yn Yr Alban.
Gwreiddiau yng Nghymru
Er bod y cerrig sy’n cael eu defnyddio yn Sochi yn Rwsia eleni wedi’u cynhyrchu o lithfaen Yr Alban, mae chwarel yn Nhrefor ger Caernarfon yn parhau i gynhyrchu cerrig cwrlio gleision.
Mae’r cerrig yn cael eu cynhyrchu o flociau sy’n pwyso rhwng 10 a 15 tunnell.
Ers dros hanner canrif, mae cerrig o’r chwarel yn Nhrefor yn cael eu hallforio i’w defnyddio yng Nghanada, ac mae Cymdeithas Cwrlio Canada yn hysbysebu bod modd prynu set o ddeuddeg o gerrig am $10,400.
Mae tîm merched Prydain wedi ennill y fedal efydd y bore ma ar ol herio’r Swistir.
Fe gollon nhw’r cyfle i gyrraedd y ffeinal ar ôl colli i Ganada ddoe.
Bydd tîm dynion Prydain yn herio Canada am y fedal aur yn y ffeinal fory.