Mae’r ERC (European Rugby Cup) wedi cyhoeddi eu bod wedi penderfynu parhau i atal taliad o £200,000 sy’n ddyledus i ranbarthau Cymru.
Roedd y rhanbarthau’n disgwyl yr arian ym mis Ionawr fel rhan o daliadau am chwarae yng nghwpanau Ewrop, sy’n cael eu rhedeg gan yr ERC.
Ond mewn cyfarfod ddoe yn Llundain fe benderfynodd bwrdd yr ERC i atal y taliad unwaith eto gan fod trafodaethau ar ddyfodol cystadlaethau Ewrop yn parhau.
Mae clybiau Cymru a Lloegr yn parhau i fod yn awyddus i chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd newydd fyddai ddim o dan reolaeth yr ERC, gyda ffrae hefyd yn parhau rhwng y darlledwyr BT Sport a Sky Sports dros bwy fydd yn darlledu cystadlaethau’r tymor nesaf.
Mae pedwar rhanbarth Cymru eisoes wedi gorfod derbyn benthyciad di-log o £600,000 gan Undeb Rygbi Cymru i’w rhannu rhyngddyn nhw.
Maen nhw wedi beirniadu’r ERC am beidio â rhyddhau’r arian, gan ddweud ei fod angen arnynt er mwyn gallu talu cyflogau a chostau dros y mis diwethaf.
Ni fydd yr ERC yn trafod y mater eto tan gyfarfod arall o’r bwrdd ar 11 Mawrth.
Mae bwrdd yr ERC yn cynnwys cynrychiolwyr o undebau rygbi’r Chwe Gwlad yn ogystal â chynrychiolwyr o gyrff clybiau Cymru, Lloegr a Ffrainc.