Michael Laudrup
“Mae’n drist gen i eistedd yma. Byddwn i wrth fy modd pe bawn i mewn swydd ac yn cael gorffen y swydd honno y dechreuais i ychydig dros flwyddyn a hanner yn ôl.

Fe gawson ni dymor gwych, y tymor gorau erioed gyda thlws a nawfed safle.

Byddwn i wedi dweud rhywbeth o’r blaen. Aeth pythefnos heibio, cryn amser, ond fe ges i gyngor y byddai’n well aros gan fod angen y llythyr gan y clwb gyda’r rhesymau dros fy niswyddo.

Cymerodd hi naw diwrnod iddyn nhw anfon y llythyr ac rwy’n gofyn “pam gymerodd hynny cyhyd?”

Fe ddechreua i ychydig cyn hynny pan wnes i gyrraedd. Yn hanes diweddar Abertawe, ers chwech neu saith o flynyddoedd, mae’r clwb wedi bod yn dringo. Fe wnaethon nhw wella bob blwyddyn, gan fynd o Gynghrair Un i’r Bencampwriaeth ac i’r Uwch Gynghrair.

Pan gyrhaeddais i, fe ddywedodd y cadeirydd a’r bwrdd: “Michael, cefnogwyr ydyn ni’n bennaf. Ni sy’n rheoli’r clwb ond ar ddiwedd y dydd, cefnogwyr ydyn ni. Rydyn ni’n dwlu ar bêl-droed a’r tîm hwn.”

Fe ddywedon nhw, “Rhaid i ni ofyn rhywbeth i chi – a fyddai’n iawn i ni ddod i’ch gwylio chi’n ymarfer?” Fe ddywedais i nad oedd problem. “Gallwch chi wneud fel y mynnoch chi, ond peidiwch ag ymyrryd yn fy swydd i. Fy nghyfrifoldeb i yw honno”.

Pan gyrhaeddais i ar ôl y tymor cyntaf hwnnw yn yr Uwch Gynghrair, fe glywais i mai’r peth pwysig, y nod, oedd aros yno. Hyd yn oed pe baen ni’n gorffen yn y 17eg safle, roedd hynny’n iawn oherwydd y cytundebau teledu newydd hefyd. Roedd yn bwysig iawn aros i fyny.

Fe ddywedais i, “Wrth gwrs”. Yn ystod yr wythnosau cyntaf, chlywais i ddim byd yn rhagor.

Roedd gen i fy syniadau ynghylch y tîm a’r chwaraewyr yn dod i mewn, yn enwedig y farchnad Sbaenaidd yr oeddwn i’n ei hadnabod yn dda iawn.

Oherwydd y trafferthion economaidd yn Sbaen, gwyddwn fod yna bosibilrwydd o gael ansawdd da yno.

Fe geisiais i gael chwaraewyr ro’n i’n gwybod y bydden nhw’n cael effaith da ar y garfan. Yma, mae gyda ni chwaraewyr fel Chico (Flores), Pablo (Hernandez), (Jonathan) de Guzman a Michu yn enwedig. Maen nhw’n chwaraewyr y gofynnais i iddyn nhw a oedden nhw am chwarae i Abertawe. Fe ychwanegon nhw ansawdd a gwerth i’r garfan.

Ar ôl y tymor hwnnw, rwy’n credu y byddai unrhyw un yn dweud mai hwnnw oedd y tymor mwyaf llwyddiannus erioed i’r clwb – tlws a gorffen yn y deg uchaf.

Rwy’n credu y cafodd y gair ‘hanesyddol’ ei ddefnyddio cryn dipyn – ennill yn yr Emirates, Anfield, Stamford Bridge, curo Chelse ac wrth gwrs, ennill yn y rownd derfynol.

Ar ôl y tymor, roedd yn rhaid i ni gynllunio ar gyfer y tymor nesaf.

Fe gytunon ni, pan ydych chi am gadw eich safle, rhaid i chi wella gan y bydd eraill yn gwella hefyd.

Os cadwch chi bethau’r un fath, rydych chi’n aml yn mynd yn is. Felly cytunon ni i gryfhau jyst er mwyn aros lle’r oedden ni.

Ar ôl hynny, pan orffennon ni’r tymor, fe drïais i’n galed i gael chwaraewyr i Abertawe. Doedd rhai ddim am ddod, roedden nhw am fynd i glybiau mwy. Fe gytunodd eraill – fe ddywedon nhw “Rydyn ni am ddod i chwarae i chi”.

Fe wnes i roi’r enwau hyn i’r cadeirydd gan nad ydw i’n delio â chytundebau. Rwy’n cysylltu yn y lle cyntaf ac yn siarad â chwaraewyr ac asiantau ac yn ceisio’u denu, ond yn nwylo’r cadeirydd neu’r bwrdd mae dod i delerau.

Ond am ba bynnag rheswm nad ydw i’n gwybod beth ydyw, ddaeth yr un o’r chwaraewyr.

Bryd hynny, fe ddechreuodd y wasg siarad am broblemau mewnol, perthnasau, ac fe ddywedais i fy mod i’n sicr y byddai’r clwb yn cadw at eu gair – mae hynny’n golygu y bydden ni’n cryfhau’r garfan.

Fodd bynnag, ro’n i’n parhau i weithio gan fy mod yn poeni tipyn am gael tîm mor gryf â phosib. Edrychais i eto i Sbaen, gan fy mod yn gwybod fod y prisiau a’r ansawdd yno’n fwy na rhesymol.

Yn ystod yr haf, fe welais i gryn dipyn yn y wasg, yma ac efallai i raddau mwy helaeth yn Nenmarc, ynghylch y broblem gyda’r cadeirydd Jenkins a fy asiant, Bayram.

Ar ryw bwynt, fe stopiodd y cyswllt rhyngddyn nhw oherwydd problemau rhwng y ddau.

Wrth gwrs, gan eich bod yn ei chanol hi, rhaid bod gennych chi farn. Ond fe ddywedais i nad oedd yn newid dim i fi. Mae fy asiant wedi bod gyda fi ers amser hir ac rwy’n ymddiried ynddo, ond dydy hynny ddim yn newid fy mherthynas gyda’r clwb.

Ar ddiwedd y tymor, fe wnes i addo i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr y byddwn i’n aros, er fy mod i wedi cael gwybod gan asiantau – doeddwn i ddim wedi siarad ag unrhyw un – fod cwpwl o glybiau mawr wedi dangos diddordeb ynof fi. Fe ddywedais ei bod hi’n bwysig cadw at fy ngair. Dydw i ddim yn rhedeg i ffwrdd o hynny, felly fe wna i aros.

Fe ddylai fod wedi bod yn haf gwych gyda phethau positif yn unig. Trueni, yn hytrach, fod cryn dipyn o erthyglau a phenawdau a dylid fod wedi osgoi hynny.

I symud ymlaen i’r tymor hwn, ro’n i’n gwybod y byddai’n dymor anodd iawn am nifer o resymau.

Yn y lle cyntaf, byddai’r disgwyliadau yn sgil y tymor diwethaf yn anferth ac ar ben hynny, dydy tîm fel Abertawe ddim yn gyfarwydd ag Ewrop.

Rydyn ni wedi gweld timau nad ydyn nhw’n gyfarwydd â chwarae mewn dwy gystadleuaeth fel hynny’n dioddef yn ofnadwy. Mae hyd yn oed clybiau mawr fel Newcastle wedi dioddef tipyn, a chlybiau fel Real Betis a Celta Vigo yr un fath.

Yn y gynghrair, roedden ni i fyny ac i lawr. Aethon ni i grwpiau Ewrop ac i’r 32 olaf yng Nghynghrair Europa. Roedden ni yng Nghwpan yr FA o hyd.

Yn y gynghrair, fe gawson ni rediad gwael yn y ddau fis diwethaf, ond roedden ni o hyd mewn grŵp o 11 o dimau oedd wedi’u gwahanu â chwe phwynt a dim ond tri sy’n disgyn. Roedd nifer fawr o gemau i’w chwarae o hyd.

Fe ddown i fis Ionawr. Fe gollon ni ambell gêm glòs yn erbyn timau mawr – Everton, Manchester City, Tottenham, ond curo Manchester United yn y gwpan.

Ganol mis Ionawr, ces i wybod nad oedden nhw’n fodlon gyda’r holl staff hyfforddi, y rheolwr a’r staff hyfforddi.

Fe drafodon ni’r peth. Rwy bob amser am wrando, ond fe ddywedais nad o’n i’n cytuno gyda’r hyn gafodd ei ddweud.

Ar ôl hynny, chwaraeon ni mewn gêm gwpan, ac ennill, ac yna fy ngêm olaf yn erbyn West Ham, a cholli.

Ar ôl hynny, fe ges i neges arall, y tro hwn yn dweud y dylwn ni ystyried go iawn – mwy nag ystyried – newid y staff.

Fy ateb oedd ein bod ni wedi trafod hynny eisoes, ond fe gytunon ni i gael cyfarfod ar y dydd Mawrth.

Y rheswm pam ei fod e ar ddydd Mawrth oedd bod gen i fater personol ar y dydd Llun yr oedd y cadeirydd yn ymwybodol ohono – a doedd hynny ddim ym Mharis.

Ar y dydd Mawrth cyn ymarfer, fe ges i’r cyfarfod ac unwaith eto, roedd yn seiliedig ar newid y staff.

Fe ddywedais ein bod ni eisoes wedi’i drafod ac fe ddywedais ei fod yn gamgymeriad mawr trafod y peth gan ei bod yn ystod yr wythnos cyn gêm Caerdydd, un o’r gemau pwysicaf.

Yr hyn wnaeth fy synnu oedd y ces i’r cyfarfod ar y dydd Mawrth, ond eisoes ar y dydd Llun, roedd y pethau y gwnes i eu trafod gyda’r cadeirydd yn y papurau. Fe adawa i hynny i’r cadeirydd.

Fodd bynnag, fe orffennon ni drwy ddweud bod rhaid i ni aros gyda’n gilydd. Fe wnaethon ni ysgwyd llaw ac fe ddywedodd “diolch am eich gwaith dros y clwb”.

Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe ges i e-bost yn dweud eu bod nhw, oherwydd i mi dorri amodau fy nghytundeb, yn ei derfynu – ychydig oriau yn unig ar ôl i ni ysgwyd llaw.

Wrth gwrs, ro’n i wedi drysu’n llwyr. Fe ffoniais i a gofyn beth oedd yn digwydd. “Fe siaradon ni’r bore ma ac ysgwyd llaw”, ond fe ddywedon nhw, “Wedi meddwl…” – roedd hi braidd yn anodd clywed beth gafodd ei ddweud dros y ffôn.

Yna, dywedais, “Beth mae torri amodau yn ei olygu?”. Roedd e’n methu esbonio. Doedd e ddim wir yn gwybod.

Tra fy mod i ar y ffôn, fe ddywedodd fy ngwraig ei bod hi eisoes ar y we fy mod i wedi cael fy niswyddo.

Y diwrnod canlynol, daeth gweithiwr y clwb â fy mhethau adref. Fe ddywedais fy mod i ychydig yn drist na allwn ni ffarwelio â fy staff a chwaraewyr.

Ro’n i’n meddwl y byddwn i’n gwneud hynny’n ddiweddarach. Fe adawodd e a ffonio nôl i ddweud fod y cadeirydd wedi dweud ei fod e’n credu ei fod yn syniad drwg gan fod gyda ni nifer o gemau mawr ar y gweill.

Dydw i ddim wedi ffarwelio ag unrhyw un o hyd, felly fe wna i hynny o fan hyn.

Wrth gwrs, roedd cryn dipyn o ergydion i fi yn fy mhen, ond rwy’n hapus gyda’r cymorth a’r gefnogaeth rwy wedi ei gael.

Mae llawer iawn o bobol wedi fy ffonio, fel Syr Alex Ferguson a Gary Lineker. Ffoniodd yr LMA (Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair) a dweud, yn anffodus, fod rhai clybiau yn defnyddio’r pethau hyn, ond “yn anffodus, dydych chi ddim mewn sefyllfa unigryw”.

Mae’r cyfreithwyr wrthi’n trafod, felly rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd – os gallwn ni ddod o hyd i ateb, ac yn anffodus, os na, fe fydd rhaid i ni ddilyn trywydd cyfreithiol.

Yn yr achos hwn, fe fyddai’n golygu tribiwnlys rheolwyr.

Fe ddof i ben lle dechreuais i. Mae’n drist gen i eistedd yma a thrafod hyn ond yn anffodus, dyna sut mae’n dod i fwcwl weithiau.

Gellir darllen blog Alun Rhys Chivers yma…