Mae daeargryn yn mesur 4.1 wedi cael ei deimlo yn ne Cymru y prynhawn ma.
Yn ôl arbenigwyr, roedd gwraidd y daeargryn ym Mor Hafren am 1.21 prynhawn dydd Iau.
Dywedodd llefarydd ar ran Arolwg Daearegol Prydain eu bod nhw’n ymchwilio i’r daeargryn a oedd i’w deimlo mewn rhannau o dde Cymru yn ogystal a Bryste, Dartmoor, Taunton a Sir Gaerloyw.
Mae pobol o ardaloedd Abertawe, Llanelli a Phorth Tywyn wedi bod yn trafod y digwyddiad ar wefan Twitter.
Dywedodd Llŷr Gwyn Lewis o Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe: “Reit siŵr mod i newydd deimlo daeargryn yn Abertawe.”
Mae Canolfan Seismolegol Euro-Med sy’n arbenigo mewn daeargrynfeydd wedi dweud ar eu tudalen Trydar bod dirgryniadau cryf i’w teimlo yn ne Cymru.