Mae canlyniadau arolwg barn newydd wedi datgelu mai Llafur yw’r blaid gryfaf yng Nghymru ac mae’r gefnogaeth i’r blaid yn tyfu.

Heddiw, mae canfyddiadau’r ail arolwg barn a gynhaliwyd gan y Baromedr Gwleidyddol Cymreig – sy’n gydweithrediad rhwng ITV Cymru Wales, Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a’r asiantaeth pleidleisio YouGov – yn cael ei gyhoeddi.

Y neges gyffredinol yw bod dim llawer o newid wedi bod ers yr arolwg cyntaf ym mis Rhagfyr – ac eithrio bwriad pleidleisio pobl yn yr etholiad Ewropeaidd ym mis Mai, lle mae UKIP yn ymddangos fel petai’n gwneud yn well yng Nghymru, ar draul y prif bleidiau.

San Steffan

Mae’r arolwg yn awgrymu bod Llafur yn parhau i fod mewn sefyllfa gref iawn yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

Petai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yfory, mae’r arolwg yn awgrymu y byddai Llafur yn ennill 8 sedd ychwanegol yng Nghymru gyda 47% o’r bleidlais.

Byddai’r Ceidwadwyr yn colli pum sedd, Plaid Cymru’n colli dwy sedd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli un sedd.

Byddai’r seddi a fyddai’n newid dwylo i gyd yn cael eu hennill gan Lafur a byddai Llafur hefyd yn cadw’r 26 o seddi a enillwyd yn 2010.

Cynulliad Cenedlaethol

Mae’r ffigyrau ar gyfer y Cynulliad yn awgrymu y bydd ennill mwyafrif llwyr ym Mae Caerdydd yn parhau i fod yn anodd i Lafur.

Ond mae’r arolwg hefyd yn dangos bod Llafur yn parhau i fod ymhell o flaen yr holl bleidiau eraill yng Nghymru, gyda’r rhai sydd ddim yn cefnogi’r Blaid Lafur yn fwy rhanedig oherwydd twf UKIP.

Ni fyddai unrhyw sedd etholaeth unigol yn newid dwylo petai etholiad yn digwydd fory a byddai Llafur yn cadw ei 30 o Aelodau Cynulliad heb newid. Ond byddai UKIP yn cipio 5 sedd ranbarthol oddi wrth y pleidiau eraill.

Etholiadau Ewropeaidd

Ond mae’r ffigyrau ar gyfer yr Etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai yn fwy diddorol.

Mae bwriad pleidleisio pobl ar gyfer mis Mai yn awgrymu y byddai Llafur yn ennill dau o bedwar sedd Cymru i’r Senedd Ewropeaidd.

Ond byddai’r Ceidwadwyr ac UKIP yn hefyd yn ennill un yr un a fyddai’n golygu y byddai Jill Evans, sydd wedi bod yn Aelod o’r Senedd Ewropeaidd ar ran Plaid Cymru ers 1999, yn colli ei sedd.

Meddai’r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wrth ITV Wales: “Beth sy’n sicr o greu rhwystredigaeth i wrthwynebwyr Llafur yng Nghymru yw’r diffyg cysylltiad rhwng asesiadau’r pleidleiswyr o record Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru a’u bwriadau pleidleisio ar hyn o bryd.

“Does dim llawer o bobl yn ymddangos fel petai nhw’n meddwl fod Llafur wedi gwneud gwaith da wrth lywodraethu Cymru, ac eto mae llawer o bobl yng Nghymru yn dal i fwriadu pleidleisio dros Lafur.”

‘Damniol’

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Mae canfyddiadau’r pôl hwn am berfformiad y Llywodraeth Lafur yn ddamniol ac yn adlewyrchu’r angen dybryd am newid cyfeiriad dramatig mewn iechyd ac addysg.

“Mae rhai misoedd cyn yr etholiad Ewropeaidd, ond y mae perygl y gallem ni yng Nghymru – ein heconomi, ein cymunedau a’n diwylliant – gael ein gadael ar ein pennau ein hunain a than fygythiad os gadawn i wleidyddiaeth adain-dde, codi-bwganod UKIP i lunio ein dyfodol.”