Geoffrey Sturdey
Mae tair dynes wedi cael eu dedfrydu i garchar am gladdu corff dyn yn anghyfreithlon, er mwyn i’w wraig allu parhau i hawlio ei fudd-daliadau.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw, fe gafodd Rebekah Sturdey, 56 a’i ffrind Boqer-Ore Adie, 43, eu dedfrydu i 20 mis o dan glo, ac fe gafodd Karmel Adie, 25, ddedfryd o naw mis o garchar wedi ei ohirio am flwyddyn.

Roedd Geoffrey Sturdey o Dregaron, Ceredigion yn 60 oed pan ddiflannodd ym mis Hydref 2008 ac fe guddiodd ei wraig ei farwolaeth am bedair blynedd er mwyn parhau i hawlio £77,318 o fudd-daliadau.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Geoffrey Sturdey ar dir fferm Beth Berith yn Nhregaron ac fe wnaeth archwiliad post mortem ddangos ei fod wedi marw yn sydyn o achosion naturiol.

Roedd y tair wedi pledio’n euog ym mis Tachwedd i gyhuddiad o atal corff rhag cael ei gladdu, ar ôl cael eu harestio ym mis Mehefin ar ôl i’r Adran Waith a Phensiynau wneud ymholiadau am Geoffrey Sturdey.