Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod am lunio ‘cynllun cyfannol’ i hyrwyddo’r Gymraeg – ddiwrnod cyn rali myfyrwyr dros ddyfodol Neuadd Pantycelyn.

Dim ond y penderfyniad i greu’r cynllun sydd wedi’i wneud ar hyn o bryd, gyda’r Brifysgol yn dweud y bydd yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi’i wneud dros y Gymraeg.

Ond yn ôl Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth mae’r cyhoeddiad yn un tactegol i geisio tynnu sylw oddi wrth benderfyniad y Brifysgol i gau Neuadd Pantycelyn.

Ymateb i adroddiad iaith

Penderfynwyd creu’r cynllun cyfannol yn sgil adroddiad allanol diweddar gan gwmni Iaith, a gomisiynwyd gan y Brifysgol i edrych ar effaith symud y myfyrwyr Cymraeg o Bantycelyn i ddatblygiad newydd ar Fferm Penglais uwchben y dref.

Casgliad yr adroddiad hwnnw oedd na fyddai symud y myfyrwyr Cymraeg i neuaddau newydd yn cael effaith negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg gan y myfyrwyr, ac y dylai’r Brifysgol fwrw ymlaen gyda’i chynlluniau.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad i sefydlu Canolfan Gymraeg newydd yng nghanol y prif gampws i hybu  gweithgareddau Cymraeg ymhlith myfyrwyr a staff y Brifysgol a’r gymuned ehangach yn ogystal.

‘Hyrwyddo’r Gymraeg’

Mae grŵp bellach wedi cael ei sefydlu gan Bwyllgor Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol i lunio’r cynllun dros y misoedd nesaf.

Ac wrth siarad â golwg360 esboniodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Dr Rhodri Llwyd Morgan eu bod yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn medru adnabod llefydd i hyrwyddo’r Gymraeg yn bellach ar weithgareddau academaidd a diwylliannol y campws.

“Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg er 2003 ac mae’r ddarpariaeth cyrsiau Cyfrwng Cymraeg hefyd yn ehangu,” meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan.

“Ond mae’r ymrwymiad i lunio cynllun strategol cyfannol i’r Gymraeg yn cynnig cyfle arloesol i gynllunio ar gyfer darpariaethau sy’n hyrwyddo a hybu’r Gymraeg – agweddau sy’n mynd y tu hwnt i’r Cynllun Iaith a’r ddarpariaeth academaidd.”

“Mae’n cynnig cyfle i gyd gysylltu’n well rhwng yr elfennau gweinyddol, academaidd a chwricwlaidd gyda sylw ychwanegol ar yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol. Byddai hefyd yn fodd o bontio rhwng y myfyrwyr a’r staff, a’r gymuned ehangach.”

Dim ei angen, meddai’r myfyrwyr

Mae UMCA wedi bod yn protestio penderfyniad y Brifysgol i gau Neuadd Pantycelyn a symud myfyrwyr i lety cyfrwng Gymraeg newydd ar Fferm Penglais, ac wedi trefnu rali arall brynhawn heddiw i bwysleisio’u galwadau.

Ac mewn datganiad yn ymateb i gyhoeddiad y Brifysgol o’r cynllun cyfannol, dywedodd Llywydd UMCA, Mared Ifan, fod y cyhoeddiad yn tynnu sylw o fater pwysicach wrth law.

“Croesawn fod y Brifysgol wedi o’r diwedd, rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg fel canolbwynt i’w phrif bolisïau,” meddai Mared Ifan. “Ond mae’r ffaith fod yr adroddiad yn awgrymu sefydlu canolfan gymdeithasol Gymraeg fel rhan o’r cynllun cyfannol yn profi y bydd symud myfyrwyr o Neuadd Pantycelyn i Fferm Penglais yn niweidiol i’r iaith.

“Mae gennym ni ganolfan gymdeithasol Gymraeg yma’n barod, a Neuadd Pantycelyn yw hi.”

“Rydym yn cefnogi unrhyw weithgaredd sydd am hybu’r Gymraeg yn Aberystwyth, ond teimlwn fod y Brifysgol yn defnyddio’r Ganolfan a’r cynllun cyfannol fel tacteg i dynnu ein sylw oddi ar y mater o gau Pantycelyn.”