Matthew Rees
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod eu bachwr, Matthew Rees wedi dychwelyd i’r cae ymarfer yn dilyn triniaeth am ganser.
Cafodd wybod fis Hydref diwethaf y byddai’n rhaid iddo dreulio cyfnod i ffwrdd o’r cae er mwyn derbyn triniaeth am ganser y ceilliau yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.
Ond mae e bellach wedi cael gwybod y gall ddechrau ymarfer eto.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd: “Mae’n bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau a thra bod yna olau ar ddiwedd y twnnel trwy’r cyfan yn ystod amserau anodd, dyma’r newyddion ro’n i bob amser am ei glywed.”
Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar am yr holl negeseuon a dderbyniodd yn ystod ei salwch.
Mae mwy na £15,000 wedi cael ei godi ers i gyn-fachwr Cymru gyhoeddi ei fod yn dioddef o’r salwch.
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Phil Davies, fod y clwb “wrth eu bodd” gyda’r cyhoeddiad.