Garry Monk
Mae Abertawe’n herio Stoke City yn Stadiwm Britannia heno, gan geisio sicrhau ail fuddugoliaeth o’r bron yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae’r gic gyntaf am 7.45pm.
Mae Jonjo Shelvey wedi’i anafu o hyd, ond fe allai Marvin Emnes ddechrau’r gêm er iddo orfod gadael y cae ar yr hanner yng Nghaerdydd ag anaf i linyn y gâr.
Dechreuodd Garry Monk ei gyfnod fel hyfforddwr Abertawe gyda buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Liberty y penwythnos diwethaf, sy’n golygu bod yr Elyrch yn y deuddegfed safle.
Aeth Aston Villa bwynt o flaen yr Elyrch yn y tabl, yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.
Mae Stoke wedi colli unwaith yn eu naw gêm ddiwethaf yn yr Uwch Gynghrair, ac maen nhw un pwynt y tu ôl i’r Elyrch.
Prif fygythiad Stoke fydd yr ymosodwr Peter Crouch, sydd wedi sgorio tair gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf i Stoke yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Britannia.
Dydy Abertawe ddim wedi ennill oddi cartref yn eu chwe gêm ddiwethaf, a dydyn nhw ddim wedi ennill dwy gêm gynghrair o’r bron ers mis Medi 2012.
Collodd Abertawe o 2-0 yn Stoke y tymor diwethaf, ac fe gawson nhw gêm gyfartal 3-3 yn y Liberty ym mis Tachwedd.
Wrth drafod eu gwrthwynebwyr, dywedodd hyfforddwr Abertawe, Garry Monk: “Mae pawb yn siarad am eu dull o chwarae, ond rwy’n credu eu bod nhw wedi’i addasu ychydig.
“Maen nhw wedi bod yn y gynghrair hon ers amser hir erbyn hyn a dydyn ni ddim o dan unrhyw gamargraff ynghylch pa mor anodd fydd hi.
“Dydy e ddim yn lle hawdd i fynd ac fe fyddan nhw am gael y pwyntiau gymaint ag y byddwn ni.
“Rhaid i ni adeiladu ar y fuddugoliaeth dydd Sadwrn ac mae’r chwaraewyr yn canolbwyntio ac yn barod amdani.”