Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi cael trafodaethau “adeiladol” ynglŷn â dyfodol cystadlaethau Ewropeaidd y tymor nesaf.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal ym Mharis rhwng gwledydd y Chwe Gwlad, gyda chynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru’n cynnwys y prif weithredwr Roger Lewis, y cadeirydd David Pickering a’r cyfarwyddwr ariannol Steve Phillips.

Roedd cynrychiolwyr o ranbarthau Cymru a chlybiau Ffrainc a Lloegr yn bresennol yn y cyfarfod hefyd.

Mewn datganiad ar ôl y trafodaethau dywedodd URC fod y cyfarfod rhwng y gwledydd a’r clybiau wedi bod yn “bositif ac adeiladol”.

“Mae URC yn parhau’n hyderus y gall y cynnydd sydd wedi’i wneud eisoes arwain at ganlyniad positif i bawb,” meddai’r datganiad.

Mae clybiau’r cyfandir yn dal i anghytuno ar ba gystadleuaeth y maen nhw eisiau cymryd rhan ynddyn nhw’r flwyddyn nesaf, gyda rhai Cymru a Lloegr eisiau sefydlu Cwpan Ewrop newydd.

Ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn gadarn o’r farn fod yn rhaid i ranbarthau Cymru aros ble maen nhw os ydyn nhw am dderbyn rhagor o arian.

Mae rhanbarthau Cymru hefyd wedi awgrymu eu bod nhw’n ystyried gadael cynghrair y Pro12 ac ymuno â chynghrair Lloegr os na ddaw nhw i gytundeb gyda’r Undeb Rygbi.

Ac mae’r ansicrwydd dros ddyfodol y gynghrair honno eisoes wedi arwain at Treviso’n penderfynu gadael y Pro12 o dymor nesaf ymlaen a dychwelyd i chwarae mewn cynghrair yn yr Eidal.